Y Pwyllgor Busnes

 

Meeting Venue:

Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel

 

Meeting date:

Dydd Mawrth, 24 Chwefror 2015

 

Meeting time:

08.30 - 08.36

 

 

 

Minutes:  Preifat

 

 

 

Committee Members:

 

Y Fonesig  Rosemary Butler (Cadeirydd)

Paul Davies

Jane Hutt

Elin Jones

Aled Roberts

 

 

 

 

 

Committee Staff:

 

Aled Elwyn Jones (Clerc)

 

 

 

 

 

 

Others in attendance:

 

Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn

Peter Greening, Llywodraeth Cymru

 

 

 

 

<AI1>

1    Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

 

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Dirprwy Lywydd.

 

</AI1>

<AI2>

2    Cofnodion y cyfarfod blaenorol

 

Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.

 

</AI2>

<AI3>

3    Trefn Busnes

 

</AI3>

<AI4>

3.1         Busnes yr Wythnos Hon

 

Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

</AI4>

<AI5>

3.2         Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

 

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

</AI5>

<AI6>

3.3         Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

 

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:

 

 

Dydd Mercher 4 Mawrth 2015 –

 

·         Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 30 mewn perthynas â hysbysu Biliau Senedd y DU (5 munud)

 

 

Dydd Mercher 18 Mawrth 2015

 

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

 

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

·         Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)

 

</AI6>

<AI7>

4    Deddfwriaeth

 

</AI7>

<AI8>

4.1         Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4):  Y Bil Troseddu Difrifol

 

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) yn ymwneud â'r Bil Troseddu Difrifol.

 

Rhoddodd Gweinidog Busnes y Llywodraeth wybod i'r Pwyllgor fod y Bil yn agosáu at ddiwedd ei daith drwy'r Senedd. Oherwydd bod amser yn brin, cytunodd y Rheolwyr Busnes i nodi'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol, ac na ddylid ei anfon at un o bwyllgorau'r Cynulliad ar gyfer gwaith craffu.

 

Gan fod nifer o Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol diweddar heb gael eu cyfeirio at Bwyllgor, ac o gofio eu harwyddocâd yn gyfansoddiadol ac o ran polisi, cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddent yn y dyfodol yn ysgrifennu at y pwyllgor perthnasol i'w hysbysu bod Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol wedi cael ei osod, ond heb gael ei gyfeirio ar gyfer gwaith craffu gan bwyllgor. Yn yr achos hwn, bydd y Llywydd yn ysgrifennu at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ac yn anfon copi at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes y bwriedir cynnal dadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r ddarpariaeth hon yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Mawrth 2015.

 

</AI8>

<AI9>

5    Y Rheolau Sefydlog

 

</AI9>

<AI10>

5.1         Diwygiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 30: Hysbysu mewn perthynas â Biliau Senedd y DU

 

Trafododd a chymeradwyodd y Pwyllgor Busnes adroddiad drafft ar ddiwygio Rheol Sefydlog 30 mewn perthynas â hysbysu ynghylch Biliau Senedd y DU. 

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog, i'w ystyried gan y Cynulliad ddydd Mercher 4 Mawrth 2013.

 

</AI10>

<AI11>

Unrhyw Fater Arall

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod Gweinidog Busnes y Llywodraeth wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch ystyried y mater o amddiffyn plant rhag cael eu curo ar sail cosb resymol. Nododd y Llywydd nad oedd y Gweinidog yn ysgrifennu ar ran y Pwyllgor Busnes.

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>